Lleoliad:Ystafell Bwyllgora 4, Senedd
a fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 7 Chwefror 2024
Amser:
10.15 -
12.23
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13700
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Emyr Harries, Llywodraeth Cymru Lloyd Hopkin, Llywodraeth Cymru Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Simon Tew, Llywodraeth Cymru Ben Crudge, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Cerian Jones (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Rhiannon Williams (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd dim ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn gofyn am ragor o wybodaeth mewn ymateb i argymhellion y Pwyllgor ar gostau sy’n ymwneud â Chomisiwn y Senedd sy’n deillio o’r Bil.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg; Emyr Harries, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio Busnes a Llywodraethiant Addysg; a Lloyd Hopkin, Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm.
3.2 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ddarparu nodyn ar drefniadau arolygu ar gyfer canolfannau gweithgareddau awyr agored preswyl a chostau cysylltiedig.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Ben Crudge, Pennaeth Polisi Trethi Lleol; a Simon Tew, Rheolwr y Bil.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.